Cyfrannu i Goetir Anian
Mae eich cefnogaeth yn cyfrif … bydd pob ceiniog yn ychwanegu at y coffrau er mwyn prynu tir.
Gellir cyfrannu unrhyw swm, ac rydym yn gwerthfawrogi pob cyfraniad.
Gyda chyfraniad o £300 neu fwy byddwch yn dod yn Sylfaenydd Coetir Anian.
Gellir gwneud hyn drwy un cyfraniad, neu gyfres o daliadau rheolaidd.
Os ydych am gyfrannu £300 neu fwy trwy fan-daliadau, rhowch sylw yn esbonio hynny os gwelwch yn dda.
Bydd Sylfaenwyr Coetir Anian yn derbyn tystysgrif, a byddant yn gymwys i dderbyn taith tywys am ddim yng Nghoetir Anian.